Cymraeg
Llanc y Llechi - Treiathlon Slateman Eryri
Dydd Sul, 19fed Fai 2013, 09.30
Llanberis, Gwynedd,
Cymru.
Cod Post LL55 4UR
Y Digwyddiad
Mae Treiathlon Slateman Eryri yn ol unwaith eto ar gyfer 2013. Mae’n cael ei gynnal ar ddydd Sul Mai 19fed yn Llanberis; prif leoliad - answyddogol chwaraeon antur Cymru. Bydd y ras yn cychwyn a gorffen wrth droed Yr Wyddfa, sydd yn golygu, wrth gwrs, y bydd y golygfeydd yn syfrdanol. Mae’r ras yn cynnig sialens arbennig i bob un – beth bynnag fo’u safon ffitrwydd a’u profiad.
Bydd dau opsiwn i cystadleuwyr - y treiathlon hir neu y treiathlon byr.
Mae Treiathlon Slateman Eryri yn agored i unigolion a thimau o dri.
Cofrestrwch ar unwaith i sicrhau eich lle – mae lleoedd yn brin!
Mae cwrs y treiathlon hir yn cynnwys:
- Nofio llyn – 1000m
- Beicio ar y ffordd – cylchdro o 51km drwy fwlch Llanberis, Capel Curig ac i lawr drwy Ddyffryn Ogwen i Fethesda ac yn ol i’r ardal newid ym mhentref Llanberis
- Rhedeg traws gwlad – 11km o ras anhygoel drwy chwareli byd-enwog Dinorwig a Pharc gwledig Padan.
Mae cwrs y treiathlon byr yn cynnwys:
- Nofio llyn – 400m
- Beicio ar y ffordd – taith o 20km dros fwlch Llanberis i Pen y Gwryd, ac yn ol yr un ffordd i’r ardal newid ym mhentref Llanberis
- Rhedeg traws gwlad – 6km o ras anhygoel drwy chwareli byd-enwog Dinorwig a Pharc gwledig Padan.





